amdanom ni
Rydym yn elusen llawr gwlad sy'n canolbwyntio ar hwyluso ffyrdd cynaliadwy o fyw
Rydym wedi ein lleoli ym Mhorthcawl ar arfordir de Cymru. Ar hyn o bryd rydym yn gweithredu ein prosiectau ein hunain yn lleol ac yn cefnogi grwpiau a rhwydweithiau cymunedol eraill ledled Cymru.
Rydym yn adnabyddus am herio'r status quo; cyflwyno prosiectau a gweithgareddau blaengar; cynnig hyder a chyfeiriad; rhoi cefnogaeth, hyfforddiant a hwyluso digwyddiadau; darparu gwasanaeth mentora a phrofiadau gwirfoddoli.
Cwrdd â’r tîm
Rydym yn dîm brwdfrydig o wahanol gefndiroedd, gan gynnwys celf, dylunio, llenyddiaeth, gwyddoniaeth, cyfryngau, diwylliant, cymuned, yr amgylchedd, archeoleg a cherddoriaeth. Rhagor o wybodaeth ...
strwythur
Rydym yn ymddiriedolaeth elusennol anghorfforedig (rhif cofrestru 1065789/0) a reolir gan fwrdd Ymddiriedolwyr etholedig, sy'n penodi pob aelod o staff. Rhagor o wybodaeth ...
hanes
Fe’n sefydlwyd yn 1997. Ni oedd y sefydliad datblygu cynaliadwy cymunedol cyntaf yng Nghymru. Rhagor o wybodaeth ...
Margaret Minhinnick
Yn seremoni wobrwyo flynyddol Cynnal Cymru a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 17 Tachwedd 2016, ein cyd-sylfaenydd Margaret Minhinnick ( bywgraffiad ) oedd yr ail berson erioed i dderbyn y 'Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig', i gydnabod ei gwaith arloesol ers deng mlynedd ar hugain ym maes yr amgylchedd a chynaliadwyedd.
Ysgrif goffa Steve Harris
Roedd Steve wedi bod yn ymddiriedolwr Cymru Gynaliadwy am bum mlynedd. Roedd aelodau'r bwrdd yn ei adnabod cyn hynny, pan fu'n gweithio ym Mhrifysgol Morgannwg, ar y fenter 'Siopau Gwyddoniaeth', a phrosiectau eraill.