Gwobrau Cymunedol Byd-Eang

2022-23

esboniad y gystadleuaeth

Gwahoddir myfyrwyr blwyddyn 12 sy'n ymgymryd â'u Prosiect Cymunedol Byd-eang fel rhan o Fagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru i gyflwyno ceisiadau cystadleuaeth sy'n gysylltiedig â themâu allweddol Cymru Gynaliadwy:

  • Dinasyddion gwybodus a gweithgar

  • Cymdeithas garbon net-sero a bioamrywiol

  • Economi lleol

  • Rheoli adnoddau ac atal gwastraff

  • Bywyd iach ac ansawdd bywyd

  • Prynwriaeth gyfrifol


    Bydd ceisiadau'n cael eu barnu ar ba mor dda y maent yn ymdrin â'r cwestiynau canlynol:


    1. Y Broblem – beth ydyw?
    2. Ddatrysiadau – beth ydyn nhw, yn lleol neu'n fyd-eang?

    3. Camau gweithredu – beth yw'r camau nesaf i'w cymryd ar gyfer gweithredu fel rhan o Gymuned Fyd-eang?


    Yn ôl disgresiwn y beirniaid, cynigir gwobrau o hyd at £250 yr un yn cael eu cynnig am y ddau gais gorau o dan y gwobrau canlynol:

  • Gwobr Steve Harris am Ddatblygu Cynaliadwy

  • Gwobr Alwyn Jones am Ddinasyddiaeth Fyd-eang

    Bydd y ceisiadau yn cael eu beirniadu gan banel o gymdeithion Cymru Gynaliadwy a Phrifysgol De Cymru.


Syniadau i'w hystyried

  • Poblogaeth ac ymfudo

  • Lleoliad, symudedd a thrafnidiaeth

  • Newidiadau mewn defnydd tir, cynefinoedd a bioamrywiaeth

  • Bwyd a dŵr – ansawdd a swm

  • Defnyddio a chynhyrchu ynni

  • Peirianneg y dyfodol

  • Llygredd a gwenwyndra yn yr amgylchedd

  • Newid yn yr hinsawdd

  • Tueddiadau cymdeithasol ac economaidd

  • Ewyllys gwleidyddol dros newid

  • Technoleg ac adnoddau – defnydd, prinder a disbyddiad